CELG(4) HIS 76

 

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin

 Ymateb gan Edwina Hart, Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

 

 

 

1.    Cyflwyniad

 

1.1.Diben y papur hwn yw nodi tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ynghylch eu hymchwiliad i Bolisi Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru.

 

 

2.    Crynodeb

 

2.1.Mae’r papur hwn yn amlinellu pwysigrwydd yr Amgylchedd Hanesyddol i dwristiaeth Cymru ac yn rhoi gwybodaeth ar weithgarwch gan fy swyddogion yn Croeso Cymru a’i bartneriaid i wneud y gorau o werth yr Amgylchedd Hanesyddol i economi ymwelwyr Cymru.

 

 

3.    Twristiaeth Cymru a’r Amgylchedd Hanesyddol

 

3.1.Twristiaeth yw un o’n sectorau economaidd allweddol, sydd werth £4.7 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn; mae’r amgylchedd hanesyddol yn rhan bwysig o’r sector.

 

3.2.Mae ymwelwyr yn chwilio am brofiadau unigryw, gwirioneddol sy’n eu galluogi i weld y Gymru go iawn. Mae ymchwil ymwelwyr yn dangos bod profiad Cymreig unigryw, gwirioneddol yn ffactor pwysig o ran boddhad taith. Mae’n diwylliant a’n treftadaeth yn rhan allweddol o apêl Cymru, gan wneud Cymru’n unigryw a rhoi rheswm dros ymweld.

 

3.3.O ran yr amgylchedd hanesyddol, gall profiadau ymwelwyr fod yn rhai generig, h.y. pensaernïaeth, cymeriad trefi a phentrefi, ymdeimlad o le neu dirluniau, neu’n rhai penodol fel ymweliadau ag atyniadau treftadaeth, amgueddfeydd, mannau addoli, neu reilffyrdd treftadaeth.

 

3.4.Mae ffigurau ymwelwyr yn cadarnhau bod ymweliadau ag atyniadau treftadaeth ymysg y gweithgareddau poblogaidd i ymwelwyr domestig ar ôl gweld golygfeydd/ymlacio. Mae ymweld â chestyll/safleoedd hanesyddol, canolfannau treftadaeth a dehongli a rheilffyrdd golygfaol oll yn gymharol fwy poblogaidd ar deithiau i Gymru na rhannau eraill o’r DU.  

 

3.5.Yn arolwg ymwelwyr 2011, roedd 38% o ymwelwyr domestig yn datgan bod mannau o ddiddordeb a safleoedd hanesyddol yn rheswm dros ymweld â Chymru, gyda mwy na thraean o ymwelwyr tramor yn nodi mai ymweld ag atyniadau a safleoedd hanesyddol oedd eu prif reswm dros ymweld â Chymru. Fodd bynnag, mae Cymru fel cyrchfan, a’i threftadaeth gref, yn gymharol llai enwog ymysg ymwelwyr rhyngwladol, gyda photensial cryf i hybu twf ymwelwyr pellach.

 

3.6.Mae canfyddiadau ymwelwyr am Gymru yn gryf yn achos cestyll a threftadaeth ddiwydiannol, gan gynnwys rheilffyrdd, ond mae’n gerddi a’n hamgueddfeydd/orielau’n llai enwog. Ar y cyfan, mae Cymru’n dioddef o’r canfyddiad, er bod digonedd o harddwch naturiol yma, prin yw’r pethau eraill i’w gweld neu’u gwneud.

 

3.7.Cestyll a phlastai sydd ar frig y rhestr o bethau y mae ymwelwyr tramor am eu gweld fwyaf pan fyddant yn dod i Brydain. Mewn arolwg VisitBritain, cafodd 10,000 o dwristiaid tramor restr o 18 o bethau y mae modd eu gwneud ym Mhrydain yn unig, a gofynnwyd iddynt ddewis y rhai roedden nhw am eu gwneud fwyaf. Y tri dewis mwyaf poblogaidd oedd: mynd ar daith o amgylch cestyll Cymru (34%), ymweld â Phalas Buckingham (32%) ac aros am noson mewn castell Albanaidd (29.1%).

 

 

Gweithgarwch Croeso Cymru

 

4.    Gwaith trawsadrannol a gwaith partneriaeth

 

4.1.Mae fy swyddogion yn gweithio drwy’r Bartneriaeth Twristiaeth Ddiwylliannol i gydlynu gwaith partneriaid sy’n ymwneud â datblygu twristiaeth, treftadaeth a diwylliant. Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys cymysgedd o gyrff mewnol ac allanol a’i nod yw casglu syniadau ar gyfer gweithredu yn y dyfodol a datblygu prosiectau ar y cyd.

 

4.2.Mae fy adran yn cydlynu grŵp trawsadrannol sy’n ceisio manteisio ar botensial dynodiad Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte drwy hyrwyddo a datblygu arlwy diwylliannol ehangach yn y Gogledd-ddwyrain.

 

4.3.Mewn perthynas â phrosiectau’r cronfeydd Ewropeaidd, mae fy swyddogion yn cadeirio ac yn rheoli Grŵp Llywio Strategol yr Amgylchedd ar gyfer Twf, yn ogystal â grŵp monitro a gwerthuso strategol yr Amgylchedd ar gyfer Twf. Mae Cadw yn bartneriaid gweithredol yn y ddau grŵp drwy’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth.

 

4.4. Yn ogystal, mae gan fy adran gynrychiolaeth yn Grŵp Amgylchedd Treftadaeth y Gweinidog Treftadaeth, gan gyfrannu at astudiaeth ymchwil i werth economaidd yr Amgylchedd Hanesyddol. Mae’r ymchwil yn amcangyfrif bod sector yr amgylchedd hanesyddol yn cefnogi dros 30,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru ac yn cyfrannu tua £840 miliwn ar werth ychwanegol crynswth cenedlaethol Cymru, sy’n gyfwerth ag 1.9% o gyfanswm gwerth ychwanegol crynswth Cymru.

 

 

5.    Marchnata

 

5.1.Mae diwylliant a threftadaeth yn rhan annatod o arlwy Cymru i ymwelwyr, felly mae cynnyrch twristiaeth treftadaeth yn elfen gref o holl ymgyrchoedd marchnata twristiaeth Llywodraeth Cymru.

 

5.2.Gan mai twristiaid treftadaeth achlysurol a damweiniol yw mwyafrif yr ymwelwyr â safleoedd treftadaeth, yn hytrach na mai diwylliant a/neu dreftadaeth yw prif ddiben eu taith, mae hyrwyddo’r atyniadau iddyn nhw yn y ffordd gywir yn hanfodol er mwyn eu cadw. Mae ymgyrchoedd marchnata yn rhoi rhesymau dros ymweld a’r pethau gorau i’w gwneud yn y gyrchfan, gan ganolbwyntio fwyfwy ar gyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus, yn ogystal â hysbysebu traddodiadol a dulliau marchnata uniongyrchol.

 

 

6.    Rheoli Cyrchfannau

 

6.1. Mae fy adran yn annog datblygu a hyrwyddo cyrchfannau drwy raglen rheoli cyrchfannau sy’n cael ei chyflwyno ledled Cymru. Mae rheoli cyrchfannau yn sefydlu partneriaethau cyhoeddus/preifat effeithiol i nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella profiad ymwelwyr mewn cyrchfan benodol. Mae datblygu asedau treftadaeth cyrchfannau wedi bod yn rhan o nifer o’r Cynlluniau Rheoli Cyrchfannau sydd wedi’u paratoi hyd yn hyn. Er enghraifft, bydd Sir Fynwy yn datblygu’r agweddau canlynol ar yr arlwy i ymwelwyr yn nhrefi a phentrefi mawr y sir:

 

·         cyfleusterau dehongli cestyll a chyfleusterau i ymwelwyr;

·         cyfleusterau dehongli eglwysi a mynwentydd a chyfleusterau i ymwelwyr;

·         amgueddfeydd;

·         safleoedd treftadaeth.

 

6.2. Mae’r ffordd rydyn ni’n gwella’r profiad o rai o’n hatyniadau treftadaeth/trefi yn gyfle diddorol i sector yr amgylchedd hanesyddol. Mae lle i ddatblygu a gwella trefi treftadaeth sydd â màs critigol o atyniadau treftadaeth i wella’u hapêl cyffredinol i ymwelwyr.

 

 

7.    Buddsoddiad Cyfalaf

 

7.1. Drwy’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, gall fy adran gefnogi prosiectau i wella cyfleusterau mewn safleoedd ac atyniadau treftadaeth i wella apêl cyffredinol cyrchfannau i ymwelwyr. Mae’r prosiectau sydd wedi’u hariannu’n ddiweddar drwy’r cynllun hwn yn cynnwys:

 

·         Castell Caerdydd - £25,000 i adfer gwedd mynedfa’r castell

·         Silver Mine Attractions Ltd, y Canolbarth - £50,000 i wella’r holl fwyngloddiau, arddangosfeydd a chyfleusterau.

·         Castell Ystumllwynarth - £238,000 i helpu i greu ‘atyniad treftadaeth warchodedig gyda mynediad llawn i’r cyhoedd’ (rhan o brosiect twristiaeth treftadaeth ehangach dan arweiniad Cadw)

·         Dyfrbont Pontcysyllte - £50,000 i ymestyn a gwella’r ganolfan ddehongli i ymwelwyr, ynghyd â gwaith seilwaith cysylltiedig ym Masn Trefor, i gefnogi Safle Treftadaeth Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte.

 

8.    Dehongli

 

8.1. Mae helpu ymwelwyr i ddeall neu ddehongli hanes lle yn allweddol i brofiad cyffredinol ymwelwyr, yn enwedig mewn atyniadau treftadaeth. Mae dulliau digidol yn cael eu defnyddio fwyfwy i ddod â safleoedd yn fyw. Mae elfennau symudol a rhyngweithiol yn helpu o ran dysgu, gan wella’r profiad cyffredinol ac ehangu’r apêl. Gall dehongli digidol (gwybodaeth symudol/realaeth uwch/teithiau hunan-dywys etc) fod yn ddull effeithiol iawn ochr yn ochr â dulliau ysgrifenedig mwy traddodiadol, dehongli person cyntaf ac ail-greu hanes.

 

8.2. Mae fy adran yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu dehongli digidol mewn safleoedd ac atyniadau treftadaeth drwy’r Prosiect Fframwaith Busnes Twristiaeth Ddigidol a ariennir gan Ewrop, er enghraifft gan ddefnyddio technoleg gemau fideo i wella profiad ymwelwyr mewn safleoedd treftadaeth ddiwylliannol a thwristiaeth allweddol.

 

 

9.    Cyfeiriad Twristiaeth Cymru yn y Dyfodol

 

9.1. Mae’r Panel Sector Twristiaeth wrthi’n cynnal adolygiad o Strategaeth Dwristiaeth Llywodraeth Cymru. Caiff yr adolygiad ei lywio’n rhannol gan ymchwil defnyddwyr newydd a gomisiynwyd yn ddiweddar i ymchwilio i’r rhwystrau a’r cyfleoedd allweddol i dwristiaid y DU o ran ymweld â Chymru. Bydd y gwaith ymchwil hwn yn helpu i lywio’r ffordd rydyn ni’n hyrwyddo’n hamgylchedd hanesyddol ochr yn ochr â chynhyrchion twristiaeth eraill yn ein gweithgarwch twristiaeth yn y dyfodol.

 

 

Edwina Hart, Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.